Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 13 Mehefin 2024
Amser:
09.34 -
13.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13929
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Cefin Campbell AS (yn lle Luke Fletcher AS) Samuel Kurtz AS |
|
Tystion: |
Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Dr Richard Irvine, Llywodraeth Cymru David Jones, Blue Gem Wind Jane Lancastle, Prospect Nisreen Mansour, Wales TUC Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru Wendy Weber, Coleg Sir Benfro |
|
Staff y Pwyllgor: |
Rob Donovan, Clerc Lara Date, Ail Glerc Evan Jones, Dirprwy Glerc Ceri Thomas, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Lucy Morgan, Ymchwilydd Katy Orford, Ymchwilydd Gareth Thomas, Ymchwilydd |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AS, Jenny Rathbone AS a Luke Fletcher AS. Roedd Cefin Campell AS yn bresennol fel dirprwy.
1.3 Datganodd Samuel Kurtz AS ei fod yn aelod er anrhydedd o Gymdeithas Milfeddygon Prydain.
2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Sir Benfro a Blue Gem Wind ar yr economi werdd.
3.2 Cytunodd Blue Gem Wind i rannu canfyddiadau gweithdy gwersi a ddysgwyd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar y broses gydsynio ar gyfer prosiect Erebus.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Prospect a’r TUC ar yr economi werdd.
4.2 Cytunodd Prospect i ddarparu adroddiad i’r Pwyllgor ynghylch darparu pŵer glân a’r hyn sy’n cael ei wneud i ateb yr heriau o ran sgiliau, ac i ddarparu linc i wybodaeth am gymhwyster newydd Cynaliadwyedd ar Waith CBAC.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda’r cwestiynau nas cyrhaeddwyd ar Bysgodfeydd.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Trafododd y Pwyllgor y papur materion allweddol.
10.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.